top of page

Prif Leisydd Skindred

Benji Webbe, 56

Calling Meby Leigh Davies
00:00 / 04:14

Casnewydd. Ie. ’Na ti ddinas fendigedig …fel ti’n gwbod, ma ’da fi “helicopter”. Er, symudes i i Florida unwaith. Am 5 mlynedd. …ac o’dd e’n wahanol iawn i Gasnewydd. Beth weles i o’dd… timod, ‘camaraderie’? O’dd ’da fe ddim lot o hwnna. Ac o’r holl bethau i weld ishe am Gasnewydd... oedd yr... timod, I mean, ti’n gallu mynd i ‘bar’ yn Florida... ond ti’m yn gallu mynd i’r fucking ‘pub’! Timod be fi’n meddwl? A dyna fe! Ac o’dd e’n rhyfedd... O’n i’n byw ar y traeth mêt! Gwgla fe! West Palm Beach, Jupiter. O’n i’n byw AR y traeth, ond timod beth, o’n i’n gallu clywed Casnewydd yn y ngalw fi. Drwy’r amser ’na i gyd pan o’n i bant. I mean, pan es i ’na gynta, o’n i fel “ahh fuck Casnewydd”, ond ma hi’r dref bach boncyrs ’ma ble sdim ots ’da neb. Fi’n meddwl bod ’da pawb o Gasnewydd darn bach o linyn arnyn nhw, a ti’n mynd bant, a ma fe fel un o’r dolie ’na, ma jyst raid ti ddod nôl. A fi ’di dod nôl. A timod, fi’n caru Casnewydd. Dyma nghartre i. Ma ’da fe hanes cyfoethog, a timod, fi dal yn meddwl bod ni’n neud hanes yn y dre ’ma. Sai’n credu bod e drosodd. Ma lot o bobl yn gweud ’thai “ohh ond ma fe’n drist bod TJ’s ’di mynd”, o’dd yn venue punk rock brilliant, ond... fi wir yn credu bod pethau’n mynd fel bod pethau newydd yn gallu dod. Scenes newydd yn cael eu creu. Fi’n caru’r dref ’ma, a fi’n byw ’ma achos fi’n caru fe. Gallen i fyw unrhyw le yn y byd ’sen i moyn, ond... dyma fi.

bottom of page