top of page
Gwirfoddolwr
Roge, 70
I Bet They Miss Me When I’m Awayby Leigh Davies
00:00 / 05:19
O’dd gerbils ’da fi, Tom a Jerry, ond o’n i ddim yn gallu edrych ar eu holau nhw pan es i mewn i’r ysbyty. O’dd raid i fi roi nhw i un o’r nyrsys o’dd yn edrych ar ’yn ôl i, o’n i’n drist i’w colli nhw. Gallai ddim cael ci na cath achos ’yn anabledd i, ond gallai gael pysgod aur. Ma ’da fi whech Shubunkin goldfish. Pan ’y fi’n tapo ar y gwydr, ma nhw’n dod lan i’r top i’n weld i, yn enwedig pan ma ddi’n amser bwyd. Pan fi’n dod nôl ar ôl bod bant am amser hir, ma nhw wir yn gyfeillgar. Beta’i bod hiraeth ’da nhw amdano fi pan ’y fi bant.
bottom of page