top of page
Tyfwr Tomatos
Nkiru, 41
1174 Gramsby Leigh Davies
00:00 / 03:35
Y peth dwi fwya balch ohono, yn hawdd, yw pan nes i dyfu tomato oedd yn pwyso dros kilo - 1174 gram a bod yn fanwl gywir. Ro’n i wedi peillio’r blodyn anferth â llaw, wedi siarad yn gariadus gyda fe wrth iddo fe dyfu, ac wedi checio arno fe sawl gwaith y dydd. Pan gwnes i ei bigo fe, es i â fe’n syth draw i ddangos i fy nghymydog i. Roedd ei wraig e’n meddwl mod i’n ddigri. Baswn i’n hoffi meddwl fy mod i wedi gwneud argraff arno fe, achos ro’n i wedi bod yn cael tips garddio traddodiadol o’r Eidal ganddo fe dros y ffens ers blynyddoedd, ac mewn gwirionedd roedd e gymaint i wneud â chreu argraff arno fe ag oedd e am faint y tomato. Yn anffodus dyw fy nghymydog hyfryd i ddim gyda ni nawr. Dwi wedi rhoi’r gorau i dyfu tomatos enfawr, ond dwi’n tyfu tomatos ceirios bach bach bob blwyddyn o hadau gwnes i gadw’n wreiddiol o domatos arbennig o felys roedd e wedi rhoi i fi dros y ffens, gyda awgrym ar gyfer sut i dyfu basil gwell.
bottom of page