top of page

Rheolwr Cynhyrchu

Weronika Szumelda, 29

Wind-Infused Laundryby Leigh Davies
00:00 / 04:33

Dychmyga, ma hi’n ddiwedd mis Chwefror, dechrau Mawrth. Ma diwrnod bant ’da ti a ti’n bwriadu ymlacio – jest aros gartre, darllen llyfr, a neud bach o’r golch. Wedyn ti am ei sychu fe tu fas achos ...timod, y bore ffresh? Pan mae’n eitha oer, ond mae’r awyr yn las a’r haul yn gynnes ar dy wyneb di? Ma ’na awel ysgafn, ond ma’i jest yn ddigon cynnes i sychu dillad. Wedyn, erbyn i ti ddod nôl o dy dro ganol pnawn, ma popeth yn gwbwl sych. Ti’n ei blygu fe, yn sipian coffi, ti’n ei roi e yn y fasged a dod â popeth nôl mewn. Wedyn, mwya sydyn, ma dy stafell di’n llawn arogl ffresh. So, ’na’n hoff beth i – dillad glân gyda gwynt y gwynt arnyn nhw.

bottom of page