top of page
Ffotograffydd
Ron McCormick, 77
Jimmy Cross is his Real Nameby Leigh Davies
00:00 / 03:57
Nath e bron â’n lanio fi’n y carchar. Nes i ddim byd o’i le, ond jyst digwydd taro mewn i dafarn y Duke of Wellington yn Spitalfields pan ma fe’n cerdded heibio gyda penglog a’n ei roi e ar y bar. Fe aeth y landlord yn dawel bach a galw’r heddlu, achos o’dd e’n gwbod bod e’n alcoholic a’n yfed meths. Peth nesa o’n i’n wbod, o’dd e ’di diflannu! So fi’n eistedd yn y bar gyda peint, a ma’r heddlu’n troi lan, a ma nhw moyn gwbod pam ma ’na benglog ’na... Mae’n debyg bod e ’di dwyn e o gist wedi cloi yn y fynwent yn Christchurch ble o’dd y beddi’n cael eu palu lan.
Amser arall o’n i yn y llys ’da fe achos o’dd e ’di cael ei neud am busko – ma fe’n cael ei arestio trwy’r amser – ta beth, tro ’ma ma fe’n lanio’n y llys a fi’n mynd ’na mas o gydymdeimlad a’n mynd “iawn Banjo?” – Jimmy Cross yw ei enw iawn e ond o’n ni gyd yn galw fe’n Banjo cos o’dd e’n chware’r Banjo. Cerddor gwych, o’dd e’n chware’r grand piano ’fyd, galle fe chware unrhyw offeryn… squeeze box, yr whole lot. Eniwe, so ma fe lan yn y doc yn y llys ynadon, a ma’r ynad yn mynd “you have been accused of begging and vagrancy” a ma fe’n mynd “Na! Wedes i taw cerddor ’y fi…………. a ma ’da fi dyst ’ma neith brofi fe!” ac ath e lawr mewn i’w fest a tynnu mas yr holl ffotograffs ’ma o’n i ’di tynnu ohono fe yn busko a’n chware offerynnau. Panic llwyr yn y llys. Ma’r barnwr yn gweud “Dalwch sownd, dalwch sownd”. Dath security guards mewn i’n nôl i yn gweud “rhaid iddo fe fynd mas, all e ddim bod yn y llys os yw e’n mynd i fod yn dyst.” Felly peth nesa, fi ’di cael ’y nhynnu mas o’r blydi llys reit, a wedyn ma raid fi ddod nôl mewn fel tyst, i roi tystiolaeth bod e’n genuine working musician!
Gath e off gyda caution.
bottom of page